Gwahodd Ceisiadau am gymorth ym myd chwaraeon
Ydych chi yn anelu yn uchel yn eich maes chwaraeon ? Ydych chi yn gobeithio cynrychioli Cymru ar y llwyfan Ewropeaidd neu ryngwladol ? Ydych chi yn byw yng Ngwynedd neu Conwy ? O dan 25 oed ?
Os yw’r uchod yn berthnasol i chi yna efallai y gall elusen Ymddiriedolaeth ‘Cofio Robin’ roi hwb ariannol i chi. Ewch i www.cofiorobin.co.uk i ddod o hyd i fanylion ynglyn a’r elusen a ffurflen gais sydd angen ei chwbwlhau a’i dychwelyd i’r elusen cyn Medi 30, 2024.
Mae’r elusen ‘Cofio Robin ‘ wedi bod yn hynod o lwcus o gael cefnogaeth a chyd-weithio gyda Byw’n Iach Gwynedd a dros y blynyddoedd diwethaf mae’r cydweithio yma wedi esgor ar bartneriaeth fuddiol iawn i helpu pobl ifanc Gogledd Orllewin Cymru.
Mor braf yw gweld cynifer o’r rhai sydd wedi derbyn arian o’r gronfa yn gwneud yn dda. Bu i dair merch, Ania Denham, Mared Griffiths a Cadi Rogers gael eu cynnwys yng ngharfan Peldroed Merched Cymru dan 17 oed yr haf hwn ac roedd tair merch o Nant Conwy (Gwenllian Pyrs, Alaw Pyrs a Nel Metcalfe) yn rhan o garfan Rygbi Merched Cymru.
Llwyddodd Jamie Jenkins yntau i serenu ar y llwyfan Ewropeaidd a rhyngwladol yn y maes dringo ac mae enwau’r ein hwylwyr dawnus o’r ardal - Arwen Fflur, Jac Bailey a Ben Sinfield - yn ymddangos yn gyson ymysg buddugwyr y byd hwylio.
Yn 2022 roedd Elusen ‘Cofio Robin’ yn hynod o falch o gefnogi pump o unigolion oedd yn cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham. Ond mae eleni yn flwyddyn y Gemau Olympaidd ym Mharis a braf nodi fod gennym gynrychiolaeth yn cystadlu yno, sef Medi Harris o Borth o Gest. Mae’r elusen wedi cefnogi Medi o’r cychwyn ac roedd hi yn un o Lysgenhadon yr elusen pan gafodd ei sefydlu yn 2018. Dymunwn yn dda iddi hi ac i bob un sy’n cynrychioli Cymru yn eu gwahanol chwaraeon.
Dros £16,000 i unigolion ym myd Chwaraeon yn lleol
Ddiwedd Medi oedd dyddiad cau y seithfed rownd o elusen “Cofio Robin” ac eleni fe dderbyniwyd 47 o gesiadau, y nifer mwyaf o geisiadau ers y cychwyn. Roedd y safon yn hynod o uchel gan wneud gwaith anodd iawn i’r Pwyllgor, ond wedi llawer o grafu pen fe gytunwyd i roi cyfraniad i 24 o’r ymgeiswyr – cyfanswm o dros £16,000. Roedd yr Ymddiriedolwyr yn edrych ar berfformiad yr unigolion i lefel uwch a chenedlaethol a rhai ar lefel Prydeinig ac roeddynt wedi cael eu rhyfeddu gan ymroddiad a dyfalbarhad y bobl ifanc.
‘Diolch am eich cefnogaeth eleni eto – mae eich elusen wedi cael dylanwad enfawr ar fy natblygiad ym myd chwaraeon – mwy na fyddech chi yn ei gredu’ – medd Catrin Jones o Fangor sy’n codi pwysau ac mae’r Ymddiriedolwyr yn hynod falch o weld sylwadau fel hyn.
Roedd un fam yn dweud fod ei mab 13 oed wedi gwneud “Dawns Hapus” o dderbyn y newyddion ei fod yn cael cyfraniad i’w gynorthwyo gyda chostau cystadlu ym myd Canŵ Slalom.
Mae derbyn sylwadau fel y rhain gan yr unigolion sydd wedi cael cyfraniad neu eu rhieni yn rhoi llawer o bleser i’r elusen ac yn rhoi cysur i’r teulu eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth i cyn gymaint o unigolion.
Y rhai dderbyniodd y cyfraniad mwyaf eleni oedd Cian Green (Nantlle – codi pwysau), Medi Harris (Borth y Gest – nofio), Jamie Jenkins (Garndolbenmaen – dringo), Catrin Jones (Bangor – codi pwysau), Toby Sutcliffe (Llanberis – canŵ slalom), Ffion Mair Roberts (Abergele – athletau), Amy Richardson (Bae Penrhyn – peldroed), Lowri Howie (Harlech – sgio) Huw Buck Jones (Bethel – seiclo), Erin Fflur Mitchelmore (Harlech – treiathlon), Catrin Williams (Caernarfon – hwylio).
Braf hefyd cael cyfrannu i amrywiaeth o chwaraeon – y traddodiadol rygbi, peldroed, criced yn ogystal ag i sectorau mwy anghyffredin fel sboncen, pel fasged a saethu colomenod clai. Mae’n fraint cael cefnogi ein hieuenctid wrth iddynt anelu yn uwch yn eu maes.
Am fwy o wybodaeth pwy sydd wedi cael ewch i :- www.cofiorobin.co.uk/pwy-sydd-wedi-cael
Cymorth i rai yn rhagori ym myd chwaraeon
Mae dilyn eich breuddwyd ym myd chwaraeon yn gallu bod yn gostus tu hwnt, gyda’r holl ymarferion, teithio, cystadlu agati, ond os ydych o dan 25 oed ac yn dod o Wynedd neu Gonwy efallai y gall Cronfa Cofio Robin fod o gymorth.
Mae’r elusen wedi rhoi cyfraniadau ariannol i dros 70 o unigolion ers ei sefydlu 5 mlynedd yn ol ac wedi cyfrannu dros £60,000. Ymysg y rhai sydd wedi derbyn cymorth mae Medi Harris gafodd flwyddyn hynod lwyddiannus y llynedd, yn ennill medal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad a wedi cael aur eleni ym Mhencampwriaethau Nofio Prydain. Un arall sydd yn serenu yw Gwenllian Pyrs sy’n chwarae rygbi dros Gymru. Fe roddir ystyriaeth i bob math o chwaraeon, a dros y blynyddoedd rhoddwyd arian i fyd marchogaeth saethu colomenod clai, beicio, dringo, caiacio, bocsio ag ati.
Ewch i'r dudalen 'pwy sydd wedi cael?' i weld mwy am yr elusen. Cewch gopi o’r ffurflen gais yma. Mae angen i’r ffurflen gais fod wedi ei derbyn gan yr Ymddiriedolaeth erbyn Medi 30, 2023.
Athletwyr ifanc Gwynedd a Chonwy
Ddiwedd Hydref cyfarfu Ymddirideolwyr Cofio Robin i fwrw golwg dros y ceisiadau oedd wedi dod i law ac i ddosbarthu arian i athletwyr ifanc Gwynedd a Chonwy.
Derbyniwyd 30 cais ac anodd oedd dethol gan fod cynifer yn cystadlu ar lefel uchel iawn ag anghenion amrywiol.
Pasiwyd rhoi y cyfraniadau uchaf fel a ganlyn :-
£1,600 James Jenkins o Garndolbenmaen (dringwr cystadleuol), £1,500 Gethin Griffith o Langenan (rhedeg a rygbi), £1,400 i Cian Green o Nantlle (codi pwysau), £1,000 i Ania Denham o Laniestyn (peldroed), £900 i Lowri Howie o Llanbedr Harlech (sgio Alpaidd), £800 i Huw Buck Jones o Bethel (seiclo), Ffion Mair Roberts o Abergele (athletau), Nansi Roberts o Efailnewydd (hoci) Roedd £700 yn cael ei gynnig i Ffion Mair o Morfa Bychan (nofio) a £600 i Arwen Fflur o Rosgadfan (hwylio) a Amy Richardson o Fae Penrhyn (peldroed). Cafodd 18 arall gyfraniad rhwng £100 a £500.
Mae’r Ymddiriedolwyr yn ymwybodol o’r anawsterau a’r heriau sydd yn wynebu’r bobl ifanc wrth ddatblygu yn eu amrywiol chwaraeon ac yn falch o allu cyfrannu ychydig yn ariannol, fydd gobeithio yn eu helpu i gyrraedd eu nod.
Cymorth I Ser Byd Chwaraeon - Ceisiadau i Law Cyn Medi 30
Ydech chi yn rhagori mewn chwaraeon neu’n nabod rhywun sy’n anelu yn uchel mewn unrhyw gamp? Os felly efallai y gall “Cofio Robin” fod o gymorth i chi / nhw. Elusen ydi “Cofio Robin” sy’n rhoi cymorth ariannol i unigolion o Wynedd a Chonwy o dan 25 oed sydd wedi gwneud eu marc ym myd chwaraeon ac yn anelu yn uwch.
Ewch i'r dudalen 'pwy sydd wedi cael?' i weld mwy am yr elusen a pwy sydd wedi cael nawdd yn y gorffennol.
Cewch gopi o’r ffurflen gais yma. Mae angen i’r ffurflen gais fod wedi ei derbyn gan yr Ymddiriedolaeth erbyn y dydd olaf o Fedi.
Ers sefydlu’r elusen “Cofio Robin” 4 blynedd yn ol mae dros £50,000 wedi ei gyfrannu i hyrwyddo chwaraeon yng Ngwynedd a Chonwy. Mae yn agos i 60 o unigolion wedi eu cefnogi a hynny mewn ystod eang ac amrywiol o chwaraeon : Dringo a Sgio, Nofio a Codi Pwysau, Pysgota a Marchogaeth. Mae’r Ymddiriedolaeth yn hynod falch fod tri sydd wedi cael cyfraniad gan yr elusen, Medi Harris, Catrin Jones ac Osian Dwyfor Jones yn cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham ddiwedd Gorffennaf. Dymunwn y gorau iddynt.
Diwrnod Golff - Medi 24, 2022
Ar y 24ain o Fedi bydd Ymddiriedolaeth Cofio Robin yn trefnu diwrnod golf yng Nghlwb Golff Abersoch i chwyddo coffrau’r gronfa, ac i gofio am Robin a fu farw 7 mlynedd yn ol yn dilyn damwain.
Am fwy o wybodaeth ewch i www.cofiorobin.co.uk/golff. Os hoffech fod yn rhan o’r diwrnod yna cysylltwch gyda Alan y Pro yn Clwb Golff Abersoch ar 01758 712 622 neu gyda Gareth ar gevans50@btopenworld.com. Gwobrau i unigolion a thimau o dri.
Gemau’r Gymanwlad Ar Y Gorwel i ‘Cofio Robin’
Cyfarfu Elusen ‘Cofio Robin’ yn ddiweddar i drafod y ceisiadau ddaeth i law. Braf gweld fod y byd chwaraeon yn araf ddod yn ôl i drefn yn dilyn cyfnod digon ansicr Covid-19.
Mae dwy sydd wedi derbyn cyfraniad rheolaidd o’r gronfa â’u golygon yn bendant ar Gemau’r Gymanwlad 2022 sy’n cael eu cynnal yn Birmingham. Mae’r ddwy eisoes wedi cydnabod y gwahaniaeth mae’r cymorth ariannol wedi ei wneud iddynt gan ganiatau iddynt roi amser i’w hyfforddiant a’u datblygiad. Mor braf pe bai y ddwy yn cael cystadlu yn Birmingham a gwell fyth medal wrth gwrs.
Y gyntaf yw Catrin Jones o Benrhosgarnedd sydd yn cystadlu ar y Codi Pwysau – mae eisoes wedi cael gwybod y bydd yn cystadlu ym Mhencampwriaethau y Gymanwlad ym mis Rhagfyr a’r gobeithion yn uchel iddi gyrraedd Birmingham yn yr Haf.
Yr ail i gael cyfraniad uwch yw Medi Harris o Borth y Gest sydd yn fyfyrwraig ym Mhrifysgol Abertawe ar hyn o bryd a sydd yn Nofio 50m a 100m dull cefn. Mae amserau diweddar Medi yn y pwll yn golygu y gall gael cynnig i nofio dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad yr Haf nesaf. Mawr hyderwn y bydd hyn yn cael ei wireddu.
Cafwyd ceisiadau eleni o amrywiol feysydd a braf oedd gweld enwau newydd yn ymgeisio ynghyd ag amryw oedd wedi cael cymorth yn y gorffennol. Eleni mae cyfraniad o dros £10,000 wedi ei wneud gan ‘Cofio Robin’ i ddeunaw o ieuenctid Gwynedd a Conwy.
Mae ‘Cofio Robin’ yn eithriadol o falch o lwyddiant pob un sydd wedi cael cyfraniad.
Elusen yn helpu byd chwaraeon yn y cyfnod Covid
Mae elusen “Cofio Robin” wedi cyfrannu dros £11,000 i roi cymorth i ieuenctid Gwynedd a Chonwy sy’n llwyddo ym myd chwaraeon. Cafwyd naw ar hugain o geisiadau oedd yn cynrychioli ystod aruthrol(16) o wahanol gampau, o godi pwysau a dringo, hwylio a physgota i sgio ag eirafyrddio yn ogystal a chriced rygbi a pheldroed.
Yn amlwg mae cyfnod y pandemig wedi cael effaith andwyol ar hyfforddiant a chystadlu pob un o’r ymgeiswyr a cytunodd yr Ymddiriedolwyr y byddent eleni fel mater o eithriad yn rhoi safswm o £100 i bob un o’r ceisiadau.
Un sydd yn anelu yn uchel ym myd codi pwysau yw Catrin Haf Jones o Fangor a’i golygon ar gystadlu yng ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham yn 2022. Iddi hi y dyfarnwyd y swm uchaf sef £1,500.
Yna yn derbyn £1,250 mae Medi Harris o Borth y Gest, hithau yn anelu at gael cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn ogystal a Pencampwriaethau y Byd yn y blynyddoedd sydd i ddod.
Yna pasiwyd rhoi £1,000 yr un i Arwel Fflur o Rosgadfan sydd yn rancio yn uchel ym myd yr hwylio, Catrin Williams o Gaernarfon sydd yn ennill medalau am hwylfyrddio a Maisie Potter o Fangor sydd yn anelu at gystadlu ym myd eirafyrddio yn Olympics y Gaeaf 2022.
Bydd £500 yr un yn cael ei roi i Huw Ifan Davies o Fethesda a Teleri Davies o’r Bala, y ddau yn gobeithio chwarae rygbi dros Gymru yn fuan, £500 i Kieran Forrest sy’n ddringwr o fri o Lanrug a £500 i Catherine Elin Roberts o Fethesda sy’n gwneud ei marc ym myd y nofio ar hyn o bryd.
Pysgota Pluen ydi camp Morgan Jones o Chwilog ac mae o eisoes wedi cael 4 cap yn cystadlu dros Gymru ac hefyd wedi bod yn gapten y tim. Cyfranwyd £300 i Morgan. Mae Llio Mair Parry o’r Brithdir ger Dolgellau wedi llwyddo i gyrraedd y garfan criced Merched Cymru o dan 17 oed ac fe ddyfarnwyd £300 iddi hithau hefyd ag yr un swm i Ffion Roberts. Un o Abergele yw Ffion Mair Roberts sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi ennill medalau ym Mhencampwriaethau Cymru a Pencampwriaethau Prifysgolion Prydain.
Dyfarnwyd £250 i Anna Wyn Houghton o Carmel sy’n chwarae peldroed, Lowri Howie o Llanbedr, ger Harlech sy’n cystadlu ar Sgio Alpaidd, Owain Rhys Humphreys o Llanfaglan, Caernarfon sy’n Saethu Colomenod Clai ag i Samia Jones o Gaernarfon sy’n rhedeg.
Cafodd chwech arall gyfraniad o £150 a saith gyfraniad o £100.
Mae’r ymgeiswyr i gyd wedi cael gwybod am y cyfraniad ac o’r negeseuon sydd wedi eu derbyn yn sgil cyhoeddi hyn mae yn cael ei werthfawrogi yn fawr.
Mae rownd 2020 o geisiadau ar gyfer cymorth ariannol bellach ar agor. Rhaid derbyn y ceisiadau erbyn Medi 30, 2020.
Ffurflen gais (PDF) - cliciwch yma
Ffurflen gais (Word) - cliciwch yma
Dwsin yn elwa o Elusen Cofio Robin
Mae saith ifanc o Wynedd a 5 o Sir Conwy wedi derbyn rhwng £250 a £1,500 yr un gan Gronfa Cofio Robin i’w cynorthwyo ym myd chwaraeon. Mae cyfanswm o £6,750 wedi ei rannu yn y rownd ddiwethaf o geisiadau.
Yr un i dderbyn y cyfraniad mwyaf oedd Catrin Jones o Benrhosgarnedd sydd yn Codi Pwysau. Eglurodd Catrin fel y bu’r cyfraniad blaenorol yn Hydref 2018 yn allweddol i’w galluogi i ragori yn ei maes ac fel y bu iddo wneud gwahaniaeth mawr i’w hyfforddiant. Mae hi yn ddiweddar wedi torri’r record Prydeinig Iau a Record Aelodau Hyn Cymru.
Yr ifanca i gael cymorth oedd Lowri Howie o Lanbedr, ger Harlech sydd yn gwneud ei marc ar y llethrau sgio. Hi yw Person Chwaraeon Ysgolion Gwynedd a Mon 2018-19 ac mae wedi ennill amryw o fedalau ar lefel cenedlaethol a bydd yn mynychu academi sgio yn yr Alpau dros y gaeaf.
Mae Catrin Williams o Gaernarfon yn hwylfyrddwraig o fri ac wedi cynrychioli Prydain ar lefel Ewropeaidd a’r Byd. Mae ar hyn o bryd yn symud ymlaen i hyfforddi gyda Offer Olympaidd.
Ar y dŵr y gwelwch chi Arwen Fflur o Rosgadfan y cyfeiriwyd ati fel “hwylwraig Optimists benywaidd gorau yn y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd” . Roedd hi yn wirioneddol ddiolchgar am y cyfraniad.
Newyddion gwych oedd ymateb Kieran Forrest o Lanrug, sydd ar hyn o bryd yn cymryd blwyddyn allan o fyd addysg i ganolbwyntio ar ei ddringo a gobeithio gwneud ei farc yn y sector hŷn dros y misoedd nesaf.
Eraill i ddebyn cyfraniad oedd Tomos Land (Llanrwst – triathlon), Ffion Mair Roberts (Abergele – rhedeg), Tyler a Tasmyn Green (Rhostryfan – hwylio), Keira Luke (Bae Colwyn – hwylio), Freddi MacLaverty (Bae Colwyn – hwylio) a Bethany Doga (Rhos on Sea- hwylio).
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf o geisiadau yw Medi 30ain, 2020.
Catrin Haf Jones (Codi Pwysau) - £1,500 |
Catrin Williams (hwylfyrddio) - £750 |
Arwen Fflur (hwylio) - £750 Credyd i Neil Shawcross am y llun yma |
Lowri Howie (sgio) - £750 |
Kieran Forrest (dringo) £750 |
|
Elusen “Cofio Robin” yn rhoi £8,000 i bobl ifanc ymroddedig mewn Chwaraeon
Yn y rownd ddiweddaraf o geisiadau ar gyfer “Cofio Robin” – (yr Ymddiriedolaeth sefydlwyd i gofio Robin Llyr Evans, fu farw yn 2015) - braf oedd derbyn 31 o geisiadau o gampau gwahanol yn amrywio o judo i bysgota o nofio i ddringo. Roedd y safon eto yn uchel a phasiwyd rhannu £8,000 rhwng yr 14 unigolyn a ddaeth i’r brig.
Braf oedd gallu cynnig cymorth pellach i ddau ddewisiwyd Haf y llynedd fel llysgenhadon i’r elusen sef Medi Harris (nofio) ac Osian Dwyfor Jones (taflu morthwyl). Mae Medi sy’n dod o Borth y Gest wedi cael llwyddiant arbennig yn ddiweddar ac wedi ei dewis i dim Prydain ar gyfer Pencampwriaeth Nofio Iau Ewropeaidd. Osian ar hyn o bryd yw pencampwr presennol Cymru yn ei gamp a’i nod yw cael lle yn nhim Prydain yn y Gemau Olympaidd 2020.
Yr un wnaeth argraff mawr ar yr Ymddiriedolwyr oedd Catrin Williams o Gaernarfon sydd yn hwylfyrddio ac yn cynrychioli Prydain ym mhencampwriaethau Ewrop a’r byd.
Roedd pedwar yn y trydydd grwp o gyfraniadau sef Arwen Fflur o Rosgadfan ac Ewan Luke o Fae Colwyn, ill dau yn hwylio, Kieran Forrest o Lanrug sydd yn dringo ac Ania Denham o Laniestyn sydd yn chwarae peldroed.
Pasiwyd ymhellach i roi cyfraniadau i 7 arall sef Osian Davenport (pysgota), Gregory Hopkins(beicio), Holly Jones (judo), Cameron Shaw (triathlon), Sophie Rawling (peldroed), Frances Smith (tenis cadair olwyn) a Ioan Dafydd Hughes (nofio).
Gobeithio y byddwn yn clywed mwy am y rhain yn genedlaethol a rhyngwladol.
Dyddiad cau y rownd nesaf o geisiadau yw Medi 30ain, 2019.
Catrin Williams (hwylfyrddio) - £1,250 |
Medi Harris (nofio) - £1,000 |
Osian Dwyfor Jones (taflu gordd) - £1,000 |
Dros £6,000 rhwng 10 unigolyn sy’n serennu ym myd chwaraeon
Bu cryn ddiddordeb yn y rownd gyntaf o geisiadau am gymorth ariannol o Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llyr Evans. Derbyniwyd 36 cais ac roedd y safon yn eithriadol o uchel.
Cyfarfu’r Ymddiriedolwyr yn ddiweddar a phenderfynwyd rhoi cyfraniad i 10 o’r ymgeiswyr.
Roedd tri yn derbyn y lefel uchaf sef – Samia Jones (rhedwraig o Gaernarfon), Catrin Jones (codi pwysau o Fangor) a Maisie Potter (eirafyrddio o Fangor).
Mae’r tri yma wedi gwneud yn arbennig o dda yn barod ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol ac edrychwn ymlaen i glywed am lwyddiannau pellach yn y dyfodol.
Y saith arall i dderbyn cymorth ariannol yw – Oliver Barbaresi (rhedeg), Owain Rhys Humphreys (saethu colomenod clai), Martyna Ruskowska (nofio), Alice Bennett, Miles Margetson, Michael Wood (i gyd yn chwarae hoci) a Rhodri Salaven (caiacio).
Dymunwn yn dda i’r holl ymgeiswyr wrth anelu yn uwch yn eu gwahanol chwaraeon.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd nesaf o geisiadau yw Mawrth 31ain, 2019.
Ffurflen gais - cliciwch yma
Lansiad Llwyddiannus Cafwyd lansiad llwyddiannus a phwrpasol ym Mhorthmadog ar Awst 31. Roeddem yn hynod o falch fod 7 o’r 8 llysgennad wedi llwyddo i ymuno hefo ni. Yn y llun o’r chwith i’r dde mae Dyddiad cau ar gyfer y rownd gyntaf o geisiadau yn nesu - Hydref 5ed, 2018. |
Lansio’r Elusen yn swyddogol
Bydd hyn yn cymryd lle ar y 31ain o Awst, 2018.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 2018 yw Hydref 5ed, 2018.
Ewch i dudalen “Ffurflen Gais” i gael copi o’r ffurflen a’i dychwelyd ar post@cofiorobin.co.uk
Diolch i Delwedd
Hoffem ddiolch o galon i gwmni Delwedd am lunio’r safle we yn ddi-dal ar gyfer yr elusen. Maent wedi cydweithio yn broffesiynol iawn ac wedi creu safle we rydym yn falch iawn ohoni.