Sefydlwyd y gronfa yma yn 2018 i gofio Robin Llyr Evans fu farw yn Wuhan China yn 20 oed.
Cynorthwyo unigolion o dan 25 oed I gyrraedd Rhagoriaeth mewn Chwaraeon - Gwynedd a Conwy
Byw Bywyd i’r Eithaf
I Bwy? - Mae’r gronfa yn agored i unigolion o dan 25 oed sydd wedi byw ers dros 3 mlynedd yng Nghwynedd a / neu Conwy.
Mae’n rhaid i’r unigolyn fod wedi cyrraedd lefel eithriadol o uchel yn ei faes chwaraeon ac yn anelu yn uwch.
Bydd yn rhaid i hyfforddwr / canolwr fod yn barod i gefnogi eich cais.
Ar gyfer beth? - Gall yr arian gael ei roi fel cyfraniad at gostau teithio i ymarferion, hyfforddiant pellach, unrhyw beth sydd yn cyfrannu yn benodol at wella perfformiad yr unigolyn.
Faint? - Bydd yr arian sydd ar gael yn amrywio o £100 i £2,000 i’r unigolion llwyddiannus yn ddibynol ar nifer y ceisiadau ac ansawdd / anghenion y ceisiadau.
Pryd ? - Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fydd y dydd olaf o Fedi yn flynyddol.
Sut i Ymgeisio? - Mae ffurflen i’w llenwi ar lein yma
*Mae ceisiadau ar gau tan Haf 2026.
Mae ffurflen i’w llenwi ar lein - cliciwch yma
Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried yn flynyddol.
Dyddiad Cau - Medi 30.
£1,000 a mwy i 10 sy’n serennu
Yr wythnos yma cafodd 10 unigolyn wybod eu bod yn derbyn £1,000 neu fwy o gronfa elusen ‘Cofio Robin’ tuag at gostau eu camp. Mae yna 16 gwahanol gamp yn cael eu cefnogi eleni. ... mwy
Elusen “Cofio Robin” yn cyrraedd carreg filltir arbennig
Mae elusen “Cofio Robin” wedi cyrraedd carreg filltir arbennig eleni gan eu bod bellach wedi cyfrannu dros £100,000 i bobl ifanc ledled Gwynedd a Chonwy trwy gyfraniadau o rhwng £100 a £1,600... mwy
Gwahodd Ceisiadau am gymorth ym myd chwaraeon
Ydych chi yn anelu yn uchel yn eich maes chwaraeon? Ydych chi yn gobeithio cynrychioli Cymru ar y llwyfan Ewropeaidd neu ryngwladol? Ydych chi yn byw yng Ngwynedd neu Conwy? O dan 25 oed? Os yw’r uchod yn berthnasol i chi yna efallai y gall elusen Ymddiriedolaeth ‘Cofio Robin’ roi hwb ariannol i chi... mwy

Os oes gennych lun neu atgof yr hoffech ei rannu byddai'r teulu yn ei werthfawrogi yn fawr - post@cofiorobin.co.uk