Llysgenhadon

Mae’r Ymddiriedolaeth wedi dewis 8 unigolyn i fod yn lysgenhadon i’r Ymddiriedolaeth yn ei blwyddyn gyntaf o fodolaeth.

Cewch fanylion am yr wyth isod.

Dafydd Gwyn Jones

Un o Lanbedrog yw Dafydd Gwyn Jones sydd a’i fryd ar fod yn golffiwr proffesiynol. Mae’n chwarae i raddnod o 0 ac yn barod yn chwarae ar lefel gystadleuol uchel. Mae yn astudio Astudiaethau Golff Proffesiynol, er mwyn cael cymhwyster PGA a hynny ym Mhrifysgol Birmingham. Ymhen blwyddyn mae Dafydd yn gobeithio bod wedi sefydlu ei hun fel chwaraewr ar un o is-gylchedau golf Prydain yn y gobaith o ennill gwobrau fydd yn ei alluogi i barhau i gystadlu.

Mae Dafydd hefyd yn gobeithio cael cymhwyster hyfforddi er mwyn helpu eraill i chwarae’r gem yn well ac I hybu mwy o ieuenctid i gymryd rhan mewn golff.

Teleri Wyn DaviesMae Teleri Wyn Davies yn ferch o’r Bala sydd wedi chwarae i Dim Rygbi Merched Cymru yn ystod 2017. Yn chwarae i Clwb Caernarfon a Rygbi Gogledd Cymru mae’n amlwg wedi gadael ei marc.

Ar gyfer hyfforddiant mae’n gorfod teithio i Gaernarfon, Parc Eirias ac i’r Vale ar gyrion Caerdydd.

Y nod yw ennill mwy o gapiau dros ei gwlad ond hefyd parhau i hybu’r gem a hyfforddi ac ysbrydoli merched ifanc yn y Gogledd.

Medi HarrisMerch 15 oed o Borth y Gest yw Medi ac wedi gwneud ei marc ar lefel genedlaethol – wedi nofio dros Gymru a dros Brydain, yn wir hi yw Rhif 1 Prydain yn ei hoedran hi. Tra bydd y rhan fwyaf ohonom dal yn ein gwlau mae Medi yn teithio i Fangor sawl gwaith yr wythnos ar gyfer sesiynau nofio. Mae’n nofio 9 gwaith yr wythnos ac yn gwneud llawer o waith codi pwysau yn y gym.

Y gobaith gan Medi yw y bydd yn gallu parhau i gynrychioli Cymru a Prydain ac yn anelu i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad pan fydd yn 19 oed.

Morgan Gethin WilliamsUn o’r Felinheli yw Morgan ac wedi gwneud ei farc yn y byd rygbi. Mae wedi bod yn rhan o academi Rygbi Gogledd Cymru ac wedi chwarae i dim rygbi Cymru dan 18 oed ac yn sgil hyn cafodd gytundeb gyda’r Gweilch. Cafodd ymarfer gyda tim 7 bob ochor Cymru a gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar y gylchdaith 7 bob ochr y byd yn Singapore ym mis Ebrill 2016. Bydd yn ymuno hefo’r Sgarlets y tymor nesaf.

Gwenllian PyrsMerch o Ysbyty Ifan ydi Gwenllian ac ond wedi cychwyn chwarae rygbi pan yn 16 oed ac wedi llwyddo mewn cyfnod byr i gyrraedd safon cenedlaethol. Dechrau trwy chwarae i Ferched Nant Conwy ac yna cael ei dewis I chwarae diwedd Rhagfyr 2014 i’r Scarlets a Chaernarfon ac yna cael ei dewis i chwarae dros Gymru diwedd 2016 a bellach wedi cael 8 cap yn chwarae dros ei gwlad ac yn gobeithio parhau i ennill capiau di-ri dros y flwyddyn nesaf.

Ffion WoodMerch 11 oed o Abersoch ydi Ffion Wood ac yn hwylio Topper. Mae yn barod yn cystadlu ar lefel Cymru a’r Deyrnas Unedig ac yn teithio ar hyd a lled y wlad. Yn Awst 2018 bydd yn cystadlu yn yr ITCA National Championships yn Weymouth. Mae’n mynychu sesiynau hyfforddi yn rheolaidd ac mae ei bryd ar fod yn aelod o Sgwad Topper RYA Cenedlaethol Cymru ym Medi 2018.

Ioan Drosinos JonesMae Ioan yn un o Nefyn ac yn gweithio o Glwb Golff Abersoch ac eisoes yn chwarae golff ar lefel broffesiynol. Llynedd llwyddodd I ennill ar y Gylchdaith 1836 gyda sgor o 7 o dan y safon yn erbyn yn agos i 200 o chwaraewyr. Wedi chwarae i raddnod o +2 fel amatur. Mae’n gobeithio llwyddo I fod yn aelod llawn o’r ‘Europro Tour’ neu’r ‘Challenge Tour’ yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

Osian Dwyfor JonesUn o Gaernarfon yn wreiddiol. Cafodd flas ar fyd athletau ar ol mynd i weld Gemau’r Gymanwlad ym Manceinion yn 2002. Osian sydd yn dal y record Cymru am daflu’r morthwyl gyda tafliad personol gorau o 71.62 metr. Bu’n cystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Awstralia yn ddiweddar a llwyddo i gyrraedd y 7fed safle. Ei nod dros y 12 mis nesa yw taflu dros 75m a chael cystadlu yn Doha ym Mhencampwriaeth Athletau’r Byd.


Robin