Sefydlwyd yr elusen er mwyn cofio bywyd Robin Llyr Evans.
Hogyn ifanc, bywiog, 20 oed oedd Robin yn cychwyn ar antur fawr – pymtheg mis o deithio i wahanol leoliadau dros y byd i’r twrnamentau tenis mwya’r byd yn gweithio i’r cwmni chwaraeon Hawk-Eye. Yn anffodus daeth yr antur i ben o fewn deufis pan fu farw Robin yn dilyn damwain tra wrth ei waith mewn stadiwm newydd sbon yn Wuhan, China ym Medi 2015.
Roedd y teulu yn awyddus i sefydlu rhywbeth arbennig i gofio amdano – rhywbeth fyddai yn adlewyrchu yr afiaith oedd gan Robin am fywyd, ei ddiddordeb brwd mewn chwaraeon a pobl.
O dipyn i beth daeth y syniad o estyn cymorth ariannol i unigolion o Ogledd Orllewin Cymru sydd yn anelu yn uchel mewn unrhyw agwedd o chwaraeon, cymorth ariannol fyddai yn eu cynorthwyo gyda’r costau uchel sydd ynghlwm wrth hyfforddi a theithio.
Felly yn Haf 2018 lansiwyd yr elusen “Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llyr Evans”.
Mae 5 Ymddiriedolwr ac un aelod Cyf-ethol. Mae tri Ymddiriedolwr yn aelod o deulu Robin a’r ddau arall yn swyddogion ym myd Chwaraeon yng Ngwynedd ac Aelod Cyf-ethol sydd yn ffrind i’r teulu ac yn hynod gefnogol o’r elusen.