Pwy oedd Robin ?

Hogyn ifanc digon cyffredin ond eithriadol ar sawl lefel oedd Robin. Yn llenwi ystafell hefo’i bresenoldeb.

Roedd cymryd rhan mewn chwaraeon wedi bod yn bwysig iddo ers yn ifanc, yn aelod o Glwb Peldroed Bro Enlli, yn aelod o dim hoci Ysgol Llanbedrog lwyddodd i gyrraedd y rowndiau terfynol ar lefel cenedlaethol pan yn ddeg oed. Roedd wrth ei fodd yn cymryd rhan.

Ond yn ei arddegau daeth chwaraeon yn fwyfwy pwysig iddo. Cawsom sioc fel teulu pan ddaeth adre o’r ysgol (Ysgol Botwnnog) a datgan ei fod wedi ennill y ras 800m a’r ras 1500m ond yn fwy na hynny ei fod wedi torri’r record. Hyd hynny doeddem ni ddim wedi ystyried ei fod yn athletwr, ond credwn fod yr ennill yma wedi esgor ar ryw ddyhead i gadw’n heini a llwyddo mewn chwaraeon. Dechreuodd chwarae rygbi a bu yn aelod brwd o Glwb Rygbi Pwllheli ag wrth ei fodd gyda’r cyd-chwarae ond hefyd ochr gymdeithasol y gem. Bu’n gapten y tim Ieuenctid am dymor. Bu’n chwarae hoci yn y Twrnament Haf am nifer o flynyddoedd ac wrth ei fodd gyda’r gamp.

Dechreuodd fynd i’r ‘gym’ yng Nghanolfan Hamdden Dwyfor ac roedd o wrth ei fodd yno yn magu cyhyrau ac yn gweithio ar ei ffitrwydd.

Ei ddiddordeb mewn chwaraeon a’i hysgogodd yn y diwedd i fynd i Brifysgol Loughborough. Peirianneg Mecanyddol oedd ei bwnc ond roedd y cyfleusterau chwaraeon rhagorol ar gampws y Brifysgol yma yn ei ddenu. Cafodd ddwy flynedd fendigedig yno, ac yn ol a ddeallwn wedi symbylu sawl cydfyfyriwr i ymuno a fo yn y sesiynau ymarfer.

Yn ystod ei flwyddyn mewn diwydiant, fe lwyddodd Robin i sicrhau gwaith gyda Hawk-Eye, yn gweithio gyda’r system ‘line calling’ electroneg yn yr adran denis. Roedd y cyfle yma yn caniatau iddo gyfuno ei frwdfrydedd am chwaraeon a theithio.

 

pic01